Got something to say or just want fewer pesky ads? Join us... 😊

A thread full of languages.



hitony

Administrator
Jul 13, 2005
16,284
South Wales (im not welsh !!)
Cefnogwyr Wrecsam yn gorfoleddu

Roedd yna ddrama a dadlau, ond mae Wrecsam wedi codi Tlws FA Lloegr ar eu hymweliad cyntaf â Wembley drwy guro Grimsby ar giciau o'r smotyn ar ddiwedd gêm gyfartal 1-1.

Wrecsam oedd wedi rheoli'r chwarae yn llwyr bron, ond Grimsby aeth ar y blaen yn yr ail hanner cyn i Kevin Thornton unioni'r sgor o'r smotyn.

Doedd dim gwahanu'r ddau wedi hanner awr o amser ychwanegol gan arwain at y ddrama o giciau o'r smotyn i benderfynnu'r enillwyr.

Corfforol

Fe ddechreuodd y gêm yn gorfforol ac roedd Craig Disley, capten Grimsby, yn ffodus i aros ar y cae yn dilyn tacl ar gapten Wrecsam Dean Keates wedi dim ond 11 munud.

Roedd dwy droed Disley oddi ar y llawr, ond rhywsut doedd y dyfarnwr ddim yn credu bod hynny'n haeddu cerdyn melyn heb son am un coch.

Wrth i'r gêm fynd yn ei blaen, roedd Wrecsam yn cryfhau, gyda Danny Wright yn penio un cyfle at y golwr, a Jay Harris yn taro ergyd fodfeddi dros y trawst wedi 20 munud.

Roedd hi'n gystadleuol, ond heb i'r naill dîm na'r llall greu cyfle clir yn yr hanner cyntaf ac fe ddaeth yr hanner cyntaf i ben yn ddi-sgôr.

Cyflymu

Daeth cyfle gorau'r gêm tan hynny wedi 49 munud. Cic hir i fyny'r maes a golwg Grimsby yn llithro wrth ddod amdani.

Rheolwr Wrecsam Andy Morrell gafodd y cyfle, ond llwyddodd y golwr James McKeown i godi mewn pryd i gadw ergyd Morrell allan, ac i atal yr ail gynnig.

Roedd cefnogwyr Wrecsam yn synhwyro bod pethau'n gwella ac ar ôl 52 munud fe ddaeth cyfle gwell fyth i'r Dreigiau, ac i'r prif sgoriwr Danny Wright.

Ond o bum llath fe darodd Wright ei ergyd heibio'r postyn pan y dylai fod wedi gwneud yn well.

Roedd tempo'r gêm yn cyflymu, a'r ddau amddiffyn o dan bwysau cynyddol gydag ambell hanner cyfle yn dod i'r ddau dîm.

Daeth Cieslewicz i'r cae fel eilydd gan greu cyfle gwych i Brett Ormerod wedi 66 munud, ond unwaith eto methu'r nod wnaeth Ormerod gyda'i beniad.

Goliau o'r diwedd

Yr hunllef oedd y byddai Wrecsam yn talu'r pris am fethu cyfleoedd, a dyna ddigwyddodd wedi 70 munud.

Pas Disley i'r canol greodd anhrefn, ac er i Chris Maxwell wneud arbediad gwych o'r ergyd gyntaf, roedd Andy Cook wrth law i rwydo i Grimsby.

Ond roedd digon o amser yn weddill, a gyda 10 munud i fynd fe ddaeth y cyfle gorau o'r cyfan i Wrecsam pan faglwyd Keates yn y cwrt.

Cic o'r smotyn i Wrecsam a Kevin Thornton gadwodd ei ben i ddod â Wrecsam yn gyfartal.

Doedd dim mwy o sgorio yn y 90 munud, felly daeth hanner awr o amser ychwanegol gyda'r ddau dîm yn blino ar gae mawr Wembley.

Bu bron i Adrian Cieslewicz sgorio un o'r goliau gorau i gael ei gweld yn Wembley ers blynyddoedd lawer pan darodd foli wych tua diwedd y cyfnod cyntaf, ond fe orfododd arbediad anhygoel gan McKeown yn y gôl i Grimsby.

Does dim amheuaeth mai Wrecsam oedd yn haeddu cipio'r fuddugoliaeth yn y cyfnod ychwanegol, ond fe wnaethon nhw fethu pentwr o gyfleoedd a bu'n rhaid mynd ymlaen i artaith y ciciau o'r smotyn i benderfynnu'r buddugwyr.

Drama

Y golwr McKeown oedd arwr Grimsby gydol y gêm, ond daeth e ddim yn agos at yr un o giciau Wrecsam o'r smotyn wrth i Cieslewicz, Danny Wright, Westwood a Hunt sgorio i Wrecsam, a Hatton a Brodie yn methu eu ciciau i Grimsby.

Roedd yr 20,000 a deithiodd o'r gogledd-ddwyrain wedi cael eu bodloni, ac wedi cael eu haeddiant.

Bydd ennill y Tlws hefyd yn hwb i obeithion Wrecsam o ennill dyrchafiad i'r gynghrair bêl-droed, ond am y tro bydd Andy Morrell a'i dîm yn gallu gorfoleddu yn eu gorchest.


Why not just say......Wrexham won on penaltys :lol:
 




Albion and Premier League latest from Sky Sports


Top
Link Here